Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) | The Draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

 

ALN 17

Ymateb gan : Dyfodol i’r Iaith

Response from : Dyfodol i’r Iaith

 

 

Beth yw eich barn ar y Bil drafft? Amlinellwch isod unrhyw bryderon sydd gennych, neu feysydd y credwch y dylai’r Pwyllgor archwilio ymhellach cyn i’r Bil gael ei gyflwyno yn ffurfiol.

 

Croesawn y cyfle hwn i gynnig ein sylwadau ar y Bil drafft.  Mae’r sylwadau isod yn canolbwyntio ar anghenion y Gymraeg mewn perthynas â’r maes allweddol hwn.

 

Byddwn yn galw am fwy o bwyslais a sylw diamwys i anghenion y Gymraeg:

 

·         Cynnwys cymal ar wyneb y Bil ac o fewn yr adran Egwyddorion yn sicrhau hawl plentyn / person ifanc i gael cefnogaeth yn y Gymraeg 

·         Cynnwys cymal yn y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn y Gymraeg pan fo galw am hynny

·          Dylid cyfeirio’n benodol at anghenion parthed y Gymraeg yn y Cod Ymarfer.  Nid yw’n ddigonol na derbyniol cyfeirio at anghenion cyfathrebu a hygyrchedd yn y cyd-destun hwn.  Byddwn yn galw am sylw penodol i’r meysydd canlynol:

·         hawl y plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i gael trafod y CDU yn y Gymraeg, ar unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac ati)

·         hawl i ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25 oed) a sicrhau dilyniant ieithyddol

·         hawl i wneud a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy brosesau lleol a gerbron y Tribiwnlys)

·         darpariaethau ynghylch y Gymraeg mewn perthynas â chydweithio aml-asiantaeth

·         darpariaethau ar gyfer cynllunio'r gweithlu i sicrhau cyflenwad digonol o arbenigwyr sy'n siarad Cymraeg

·         eiriolaeth annibynnol yn y Gymraeg

 

Nodwch isod eich prif bryderon mewn perthynas â’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gadewch i ni wybod a yw’r Bil, yn eich barn chi, yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, neu a oes angen rhagor o waith.

 

Credwn ei bod yn gwbl hanfodol bod unrhyw asesiad o angen sydd ynghlwm a'r CDU yn rhoi ystyriaeth flaenllaw i anghenion iaith y plentyn/person ifanc.  Dylid ystyried ym mha iaith y ddylai'r gefnogaeth gael ei darparu ar sail angen y plentyn/person ifanc nid ar sail pa gefnogaeth sydd ar gael.  Os yw'r drefn newydd yn mynd i fod yn wirioneddol yn seileidig ar angen y person mae anghenion ieithyddol yn greiddiol i sicrhau cefnogaeth bwrpasol.

 

Cred Dyfodol i'r Iaith mai'r flaenoriaeth yw sicrhau gweithlu arbenigol addas i fedru asesu a darparu'r gefnogaeth sydd ei angen.  Ar hyn o bryd mae hi'n anodd sicrhau digon o weithwyr sy'n medru darparu cefnogaeth yn y Gymraeg mewn nifer o feysydd, e.e. seicolegwyr addysg sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg; athrawon i'r byddar; athrawon i'r rhai a nam ar eu golwg.  O ehangu y ddarpariaeth hyd at 25 fe fydd yn anos byth sicrhau cefnogaeth addas a bwrpasol yn y Gymraeg.

 

Rydym yn argymell bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyd-weithio gyda'r Llywodraeth i adnabod lle mae prinder a diffyg o ran gweithlu ADY sy'n medru'r Gymraeg a mynd ati i ddarparu'r cyrsiau anghenrheidiol yn y Gymraeg.

 

Gan bod prinder arbenigedd yn y Gymraeg dylai'r Llywodraeth ystyried cynnig cymhelliant ariannol i athrawon a darlithwyr i ddatblygu sgiliau ac ail-hyfforddi er mwyn medru darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Credwn hefyd ei bod yn gwbl hanfodol bod unrhyw asesiad o angen sydd ynghlwm a'r CDU yn rhoi ystyriaeth flaenllaw i anghenion iaith y plentyn/person ifanc.  Dylid ystyried ym mha iaith y ddylai'r gefnogaeth gael ei darparu ar sail angen y plentyn/person ifanc nid ar sail pa gefnogaeth sydd ar gael.  Os yw'r drefn newydd yn mynd i fod yn wirioneddol yn seileidig ar angen y person mae anghenion ieithyddol yn greiddiol i sicrhau cefnogaeth bwrpasol.

 

Dylai fod un templed cyffredin rhwng awdurdodau lleol ar gyfer y CDU a dylai'r CDU fod yn trosglwyddadwy rhwng awdurdodau lleol.  Mae angen esboniad clir o anghenion cefnogaeth y plentyn yn y CDU.

 

Mae maes addysg arbennig yn y Gymraeg yn un sydd wedi achosi pryder ers blynyddoedd maith.  Yn achos plant ag anghenion dwys prin iawn yw'r ddarpariaeth mewn ysgolion arbennig y tu allan i Wynedd, ac felly mewn nifer o achosion mae rhieni wedi gorfod dewis rhwng addysg Gymraeg ac addysg arbennig.  Mewn sawl ardal nid oes darpariaeth arbenigol ar gael yn y Gymraeg, ac mae hyn yn creu anghyfartaledd.  Un enghraifft yw cefnogaeth i blant byddar.  Mae ystadegau diweddar gan y Consortiwm Ymchwil i Addysg Fyddar yn dangos mai dim ond 9 o'r 16 o wasanaethau nam byddardod yng Nghymru sy'n gallu darparu cefnogaeth Athro i'r Byddar peripatetig yn y Gymraeg.  Dim ond 3 gwasanaeth oedd yn gallu cynnig cefnogaeth cynorthwydd dysgu a gweithiwr cyfathrebu yn y Gymraeg i blant byddar.  Mae achosion wedi dod i'n sylw o rieni yn cael eu cynghori i anfon i plentyn i ysgol cyfrwng Saesneg er mwyn cael y gefnogaeth bwrpasol.  Mae sefyllfa fel hyn yn gwbl annerbyniol ac yn groes i hawliau'r plentyn o dan Gonfensiwn y Genhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sydd yn i fod yn greiddiol i holl waith Llywodraeth Cymru.

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt uchod?